{"id":2065,"date":"2022-01-06T10:42:10","date_gmt":"2022-01-06T10:42:10","guid":{"rendered":"https:\/\/dragonsheart.org\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/"},"modified":"2022-01-06T10:42:21","modified_gmt":"2022-01-06T10:42:21","slug":"jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/","title":{"rendered":"Jonathon Gray: &#8220;Busnes (An)arferol&#8221; &#8211; Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol"},"content":{"rendered":"<p>Un o\u2019r agweddau sy\u2019n rhoi\u2019r boddhad mwyaf i fi yn fy swydd yw\u2019r amser rwy\u2019n ei dreulio gyda\u2019n harweinwyr. Roedd pandemig COVID-19 yn gofyn am newid systemig ar raddfa fawr a ddaeth \u00e2\u2019r cyfle annisgwyl i weithio gydag arweinwyr o\u2019r fath ar draws y nifer o seilos iechyd a gofal, ochr yn ochr \u00e2 rhai o leoedd a sefydliadau nad ydym bob amser wedi rhwydweithio \u00e2 nhw fel y Fyddin, yr awdurdod lleol, chwaraeon elitaidd, a llawer mwy.<\/p>\n<p>Wrth gydweithio \u00e2 nhw, roedd rhai them\u00e2u cyffredin a godwyd dro ar \u00f4l tro gan yr holl arweinwyr: pa mor rhwystredig ac unig y gall fod iddynt i lywio cymhlethdodau ein system a pha mor anodd yw hi i unrhyw ran o\u2019r system wneud newid ar ei phen ei hun. Cawsom ein hatgoffa yn y ffordd galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf bod materion cymhleth a rhyng-gysylltiedig yn gofyn am ddulliau arloesol i ysgogi gweithredu pwrpasol ar raddfa eang. Gwelsom yr hyn y mae rhai yn ei ddisgrifio fel <em>Arweinyddiaeth Systemau<\/em> yn dod i\u2019r amlwg.<\/p>\n<p>Mae Lisa Dreier, Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Arweinyddiaeth Uwch ym Mhrifysgol Harvard, a\u2019i chydweithwyr yn Ysgol Harvard Kennedy, yn ein hatgoffa bod angen ymrwymiad unigolion a sefydliadau sy\u2019n ymuno \u00e2\u2019i gilydd i weithredu ar y cyd drwy rwydweithiau mawr a chynghreiriau i greu effaith a newid systemig ar raddfa. Mae\u2019n gofyn am ddulliau newydd ac arloesol sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 rhwydweithiau eang o randdeiliaid amrywiol, gan wneud defnydd o\u2019u galluoedd ategol i symud ymlaen tuag at nod a rennir. Mae\u2019n gofyn am strategaethau sy\u2019n dod i\u2019r amlwg, sy\u2019n addasol ac yn hyblyg, oherwydd mae systemau cymhleth bob amser yn newid.<\/p>\n<p>Roedd yr hyn a brofwyd gennym yn ystod y pandemig yn golygu bod angen gwyro oddi wrth ddulliau hierarchaidd traddodiadol o weithredu newid a\u2019n huchelgais yw distyllu\u2019r pethau cadarnhaol o\u2019r hyn a oedd yn wahanol. Drwy Sefydliad Calon y Ddraig, gallwn sicrhau bod cydweithio o\u2019r fath ledled y system yn digwydd i fynd ar drywydd heriau \u2018amhosibl\u2019 eithriadol.<\/p>\n<p>Cam allweddol ymlaen, wrth weithio gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, oedd adeiladu\u2019r rhaglen arweinyddiaeth systemau newydd, Climb. Mae Climb yn adeiladu arweinwyr systemau o\u2019r fath, gan ategu gwaith arwain arall yng Nghymru a\u2019r DU ar yr un pryd. Wrth weithio gyda rhai o\u2019r goreuon yng Nghymru ac o bob cwr o\u2019r byd, nod Climb yw ysbrydoli ei gyfranogwyr, dysgu\u2019r sgiliau a\u2019r ymddygiadau iddynt, a chreu\u2019r rhwydweithiau iddynt ddod yn arweinwyr traws-system effeithiol. Mae\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa, sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn dod \u00e2 thimau at ei gilydd sydd \u00e2 syniadau yn barod i\u2019w lledaenu. Gallwn alinio\u2019r syniadau hynny sy\u2019n barod i\u2019w lledaenu gydag arweinwyr o Climb, wrth iddynt feithrin a defnyddio rhwydweithiau traws-system, i ryddhau\u2019r syniadau hynny yn llwyddiannus ledled Cymru.<\/p>\n<p>Felly ble ydyn ni ar hyn o bryd? Wrth gwrs, rydym yn gweld rhwystredigaeth a darnio. Rydym hefyd yn gweld pobl wych mewn amgylchedd heriol, sydd \u00e2 pholisi galluogi, ond yn aml yn brin o\u2019r set lawn o sgiliau ac ymddygiadau i wneud newid. Rydym wedi gwneud pethau rhyfeddol o\u2019r blaen ond mae\u2019n tueddu i fod ar achlysuron ynysig ac rydym yn methu \u00e2 meithrin y tyfiant unigol hwnnw yn gae cyfan o flodau. Weithiau rydym yn gwneud y peth cwbl anghywir ac yn torri coesyn y \u2018pabi tal\u2019 hwnnw yn lle hynny. Ein hymateb i\u2019r rhwystredigaeth honno i\u2019r darnio yw adeiladu llu o arweinwyr i wneud yr eithriadol yn fwy cyffredin yn y dyfodol. Ond does dim llawer o amser! Bydd angen newid anghyffredin i ddod allan i ochr arall adferiad COVID-19, ac wynebu\u2019r rhes o heriau ymddangosiadol \u2018amhosibl\u2019 sy\u2019n weladwy o\u2019n blaenau; newid yn yr hinsawdd yn bennaf.<\/p>\n<p>Mae gen i\u2019r darlun hwn yn fy meddwl. Mae fel adeiladu t\u00e2n. Rwy\u2019n gweld sawl \u2018matsien\u2019 ddrud uwch-dechnoleg yn cael eu goleuo ond does dim byd iddyn nhw losgi, felly maen nhw\u2019n diffodd. Rwy\u2019n gweld rhai matsis yn cael eu gosod yn erbyn tanwyr t\u00e2n, ac mae yna gyffro wrth i\u2019r t\u00e2n neidio o\u2019r fatsien i\u2019r taniwr, a\u2019r fflamau a\u2019r mwg yn tyfu\u2019n fwy, ond yna does dim byd arall i\u2019w losgi ac mae\u2019r t\u00e2n yn diffodd yn siomedig. Mae yna adegau anghyffredin prin pan fydd y fatsien symlaf yn gallu cynnal taniwr sy\u2019n mygu ac yna\u2019n llosgi\u2019n llachar, gan dyfu fflam fach y fatsien am eiliad, ond yna ychwanegir y tanwydd, ac mae\u2019r t\u00e2n yn cydio, ac mae yna gyfle wedyn i ychwanegu\u2019r boncyffion mawr, a chadw digon o aer i gylchredeg.<\/p>\n<p>Tanwydd: dyna beth rydyn ni\u2019n ei greu. Yr arweinwyr fydd y tanwydd ar gyfer y syniadau a\u2019r datblygiadau arloesol sy\u2019n disgleirio\u2019n llachar. Tanwydd ar gyfer y gwreichion llachar, a welwn ym mhobman yn ein system. Rwy\u2019n credu bod newid yn dechrau pan fydd un, dau neu fwy o bobl yn penderfynu datrys problem, a dod o hyd i syniad disglair. Weithiau, rydym yn llwyddo i gyfuno\u2019r gwreichion llachar ar draws ein system; mae angen y tanwyr arnom (y cyllid peilot efallai, y deoryddion syniadau, y cyllid cychwynnol) ond fel arfer mae\u2019r tanwydd yn brin, a byddwn yn newid hynny.<\/p>\n<p>Ni allwn danddatgan maint a chymhlethdod y dasg. Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 her systemig, rhaid i\u2019r arweinwyr traws-seilo ddysgu gweithio gyda llawer mwy o randdeiliaid nag yr ydym fel arfer yn ei wneud. Bydd angen iddynt allu deall a gweithio gyda llunwyr polisi, darparwyr technoleg, cymdeithas sifil a sefydliadau ymchwil i ysgogi effaith ehangach gyda\u2019r nod o gyflawni newid ar draws y system. Mae cydweithio ac adeiladu cynghreiriau o\u2019r fath yn aml yn ddull newydd ac anghyfarwydd i\u2019n harweinwyr gan nad yw hyfforddiant arweinyddiaeth presennol yn bodoli weithiau, a lle caiff ei ddarparu, weithiau caiff ei roi mewn seilo o fewn proffesiynau, sefydliadau a methodolegau.<\/p>\n<p>Wrth i mi ddatblygu trwy fy ngyrfa fy hun, rwyf wedi dod yn argyhoeddedig mai\u2019r peth pwysicaf y gallwn ei wneud yw cydnabod a chefnogi ein harweinwyr. Dyna pam rwyf wedi canolbwyntio ar sefydlu\u2019r rhaglen Climb. Yn ein Hacademi Lledaeniad a Graddfa lwyddiannus, yn ein rhaglen Enghreifftiol Bevan, ac mewn llawer o raglenni eraill mae gennym ein mannau llachar, ein fflam fach ddisglair gychwynnol. . Y 200 a mwy a ymgeisiodd am leoedd cyfyngedig ar Climb, a\u2019r deg ar hugain o arweinwyr sydd wedi cael eu dewis ar gyfer carfan 2021\/22, yw ein tanwydd.<\/p>\n<p>Credwn fod y gwir arloesedd, a\u2019r newid rhyfeddol sydd ei angen arnom, yn digwydd pan ddaw gwahanol ddiwylliannau, syniadau a disgyblaethau at ei gilydd i danio atebion newydd a digynsail yn yr hyn y mae\u2019r entrepreneur o Sweden, Frans Johansson, yn ei alw\u2019n <em>The Medici Effect<\/em>, rhywbeth y byddaf yn ysgrifennu amdano ymhellach yn fy mlog nesaf.<\/p>\n<p>Bydd arweinwyr Climb yn cael eu hysbrydoli a\u2019u bywiogi gan yr hyn sy\u2019n bosibl ledled y byd. Byddant yn dysgu am eu hunain, yn tyfu eu hunanymwybyddiaeth ac yn deall eu heffaith ar eraill. Byddant yn adeiladu\u2019r wybodaeth a\u2019r arferion y bydd eu hangen arnynt i lywio ein byd sy\u2019n newid. Byddwn yn rhoi\u2019r sgiliau iddynt i gysylltu ar draws ffiniau sefydliadol a sectorau a\u2019u cefnogi i adeiladu rhwydweithiau amlgenedliadol cynhwysol, gyda chyfleoedd parhaus i gydweithio a datrys heriau cymdeithasol mawr. Yn ysbryd Climb, a\u2019r cysylltiadau agos \u00e2 Peter Hillary a Sefydliad Hillary, byddwn yn parhau i ddod \u00e2\u2019r gr\u0175p yn \u00f4l at y dyfyniad ysbrydoledig hwn gan Syr Edmund Hillary:<\/p>\n<p><em>\u201cPeople do not decide to become extraordinary. They decide to accomplish extraordinary things\u201d<\/em><\/p>\n<p>Wrth i mi ysgrifennu, rwy\u2019n ymwybodol o un her uniongyrchol sy\u2019n wynebu ein harweinwyr. Ar ddiwedd mis Hydref, ymgymerodd pob un o\u2019r deg ar hugain o arweinwyr \u00e2 thri diwrnod cychwynnol o hyfforddiant ac ymsefydlu, gan gyfarfod am y tro cyntaf fel cymuned ac roeddent yn agored i beth o\u2019r addysgu gorau ar arweinyddiaeth o bob cwr o\u2019r byd. Roeddem i gyd yn teimlo\u2019n frwdfrydig ac yn llawn egni, ac eto gwn, wrth i bob un o\u2019n harweinwyr ddychwelyd i\u2019w gweithle a dechrau rhannu eu profiad gyda chydweithwyr yng nghanol bywydau proffesiynol prysur, y bydd llawer o\u2019r brwdfrydedd hwn yn diflannu. Bydd yn anodd newid yr arferion sy\u2019n cynnal \u2018busnes fel arfer\u2019, hyd yn oed os ydym yn gwybod nad yw ein ffyrdd arferol o weithio bellach yn cynrychioli\u2019r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd at ein gwaith. Felly, rwy\u2019n amau mai\u2019r her gyntaf y bydd ein harweinwyr yn ei hwynebu bydd ennyn eu brwdfrydedd ac addasu eu syniadau newydd i\u2019w gweithle er gwaethaf pwysau trwm gwaith y rheng flaen.<\/p>\n<p>Rydym i gyd wedi profi hyn ac wedi gweld potensial cyrsiau arweinyddiaeth rhagorol heb eu gwireddu dro ar \u00f4l tro. Rydym yn arbrofi gyda nifer o ddulliau o ymdrin \u00e2\u2019r her hon. Yn gyntaf, y meddylfryd; rydym wedi creu Climb i fod yn l<strong><em>lawer mwy na chwrs; mae\u2019n gymuned<\/em><\/strong> ac rydym yn gweld syniadau rhyfeddol, ac ymgysylltiad anhygoel ar draws y gr\u0175p. Byddwn yn eu helpu i ffurfio gr\u0175p unigryw gyda rhyngweithio gwefreiddiol lle maent yn cefnogi ei gilydd. Byddwn yn rhoi mynediad digynsail iddynt at arloeswyr sydd ar flaen y gad, gan eu cysylltu \u00e2 phobl o\u2019r un anian hyd yn oed y tu hwnt i\u2019w gr\u0175p. Byddwn yn parhau i rannu cyfleoedd i bwyso a mesur ein heriau cymdeithasol mwyaf ac yn parhau i\u2019w herio a\u2019u cefnogi gan arweinwyr o\u2019r radd flaenaf. Anaml y bydd gan uwch arweinwyr ac arbenigwyr yr ystod i fentora\u2019r rhai sy\u2019n dilyn yn eu sgil ond wrth iddynt ymddeol o\u2019r gweithlu, gellir anghofio eu gwerth. Byddwn yn bywiogi dysgu rhwng y cenedlaethau drwy baru cynrychiolwyr Climb gydag unigolion eithriadol sy\u2019n dod ag oes o fomentau goleuedig.<\/p>\n<p>Gan weithio yn Seland Newydd ac yna gweithio yn ystod y pandemig fe\u2019m hatgoffwyd o bwysigrwydd perthyn, o fewnwelediad dwfn ac archwilio eich stori, sy\u2019n eich galluogi i adnabod eich lle o fewn system a\u2019r newid y gallwch ei ysgogi o ganlyniad. Yn ystod anhrefn tonnau cychwynnol y pandemig, gwelsom arweinwyr ar draws ein system yn camu ymlaen ac yn rhedeg tuag at y t\u00e2n. Cyflawnodd cannoedd o unigolion a thimau bethau anhygoel yn wyneb yr her enfawr hon. Yn Climb, mae gennym le bellach, cymuned i ddod \u00e2 nhw at ei gilydd, i roi fforwm iddynt wneud newid go iawn wrth i ni ystyried sut y dylai\u2019r GIG edrych a gweithio o hyn ymlaen. Mae cymunedau, fel yr un yr ydym wedi\u2019i ffurfioli fel Climb, yn elfen allweddol o\u2019n system gymhleth ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>Yn y b\u00f4n, mae Climb yn ymwneud \u00e2\u2019r cyfuniad o 30 o arloeswyr a\u2019r llawer mwy y byddwn yn ymgysylltu \u00e2 nhw mewn ffyrdd llai ffurfiol ond arwyddocaol, gobeithio, ar hyd y daith. Nid eu cyflawniadau unigol, methiannau, na\u2019u safleoedd yn yr hierarchaeth draddodiadol. Yn lle hynny, mae\u2019n rhwydwaith o arweinwyr, lle mae p\u0175er yn deillio o\u2019r berthynas rhyngddynt ac ar draws y ffiniau \u2018arferol\u2019.<\/p>\n<p>Fy uchelgais yw y bydd mwy a mwy o arweinwyr disglair yn y misoedd a\u2019r blynyddoedd i ddod yn dod yn rhan o\u2019r rhwydwaith anarferol hwn ac y byddwn yn ddewr gyda\u2019n gilydd, yn cynnau fflamau yr hyn y gellir ei wneud.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Un o\u2019r agweddau sy\u2019n rhoi\u2019r boddhad mwyaf i fi yn fy swydd yw\u2019r amser rwy\u2019n ei dreulio gyda\u2019n harweinwyr. Roedd pandemig COVID-19 yn gofyn am newid systemig ar raddfa fawr&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":3517,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[67],"tags":[],"class_list":["post-2065","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-views-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Jonathon Gray: &quot;Busnes (An)arferol&quot; - Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol - Dragon Heart Institute<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Jonathon Gray: &quot;Busnes (An)arferol&quot; - Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol - Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Un o\u2019r agweddau sy\u2019n rhoi\u2019r boddhad mwyaf i fi yn fy swydd yw\u2019r amser rwy\u2019n ei dreulio gyda\u2019n harweinwyr. Roedd pandemig COVID-19 yn gofyn am newid systemig ar raddfa fawr...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-01-06T10:42:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-01-06T10:42:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Jonathon Gray\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Jonathon Gray\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Jonathon Gray\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/85ff64f1827d4657cbfd484acd5aadfe\"},\"headline\":\"Jonathon Gray: &#8220;Busnes (An)arferol&#8221; &#8211; Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol\",\"datePublished\":\"2022-01-06T10:42:10+00:00\",\"dateModified\":\"2022-01-06T10:42:21+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/\"},\"wordCount\":1955,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Barn\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/\",\"name\":\"Jonathon Gray: \\\"Busnes (An)arferol\\\" - Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol - Dragon Heart Institute\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2022-01-06T10:42:10+00:00\",\"dateModified\":\"2022-01-06T10:42:21+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Jonathon Gray: &#8220;Busnes (An)arferol&#8221; &#8211; Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"Dragon's Heart Institute\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/DragonsHeart_I\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/showcase\\\/dragon-s-heart-institute\\\/\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/85ff64f1827d4657cbfd484acd5aadfe\",\"name\":\"Jonathon Gray\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/10\\\/Team_photo_Jonathon_Gray@2x-96x96.png\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/10\\\/Team_photo_Jonathon_Gray@2x-96x96.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/10\\\/Team_photo_Jonathon_Gray@2x-96x96.png\",\"caption\":\"Jonathon Gray\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/author\\\/jonathon-gray\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Jonathon Gray: \"Busnes (An)arferol\" - Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol - Dragon Heart Institute","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Jonathon Gray: \"Busnes (An)arferol\" - Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol - Dragon Heart Institute","og_description":"Un o\u2019r agweddau sy\u2019n rhoi\u2019r boddhad mwyaf i fi yn fy swydd yw\u2019r amser rwy\u2019n ei dreulio gyda\u2019n harweinwyr. Roedd pandemig COVID-19 yn gofyn am newid systemig ar raddfa fawr...","og_url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/","og_site_name":"Dragon Heart Institute","article_published_time":"2022-01-06T10:42:10+00:00","article_modified_time":"2022-01-06T10:42:21+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Jonathon Gray","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@DragonsHeart_I","twitter_site":"@DragonsHeart_I","twitter_misc":{"Written by":"Jonathon Gray","Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/"},"author":{"name":"Jonathon Gray","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/85ff64f1827d4657cbfd484acd5aadfe"},"headline":"Jonathon Gray: &#8220;Busnes (An)arferol&#8221; &#8211; Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol","datePublished":"2022-01-06T10:42:10+00:00","dateModified":"2022-01-06T10:42:21+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/"},"wordCount":1955,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg","articleSection":["Barn"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/","name":"Jonathon Gray: \"Busnes (An)arferol\" - Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol - Dragon Heart Institute","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg","datePublished":"2022-01-06T10:42:10+00:00","dateModified":"2022-01-06T10:42:21+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#primaryimage","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/ClimbDelegates-261021-3-scaled.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/jonathon-gray-busnes-anarferol-sut-y-gall-rhwydweithiau-ar-draws-systemau-gefnogi-arweinwyr-i-gyflawnir-eithriadol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Jonathon Gray: &#8220;Busnes (An)arferol&#8221; &#8211; Sut y gall rhwydweithiau ar draws systemau gefnogi arweinwyr i gyflawni\u2019r eithriadol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","name":"Dragon's Heart Institute","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/dragonsheart.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization","name":"Dragon's Heart Institute","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","width":1920,"height":1080,"caption":"Dragon's Heart Institute"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/DragonsHeart_I","https:\/\/www.linkedin.com\/showcase\/dragon-s-heart-institute\/"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/85ff64f1827d4657cbfd484acd5aadfe","name":"Jonathon Gray","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Team_photo_Jonathon_Gray@2x-96x96.png","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Team_photo_Jonathon_Gray@2x-96x96.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/10\/Team_photo_Jonathon_Gray@2x-96x96.png","caption":"Jonathon Gray"},"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/author\/jonathon-gray\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2065","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2065"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2065\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2066,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2065\/revisions\/2066"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3517"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2065"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2065"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2065"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}