{"id":1865,"date":"2021-10-26T14:36:06","date_gmt":"2021-10-26T14:36:06","guid":{"rendered":"https:\/\/dragonsheart.org\/?p=1865"},"modified":"2021-10-26T14:36:06","modified_gmt":"2021-10-26T14:36:06","slug":"bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/","title":{"rendered":"Bryn Kentish &#8211; \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu&#8217;r Academi Lledaeniad a Graddfa"},"content":{"rendered":"<p><span data-contrast=\"auto\">A minnau wedi helpu i\u2019w hyrwyddo ers 2019, cefais y fraint o allu mynychu\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa o\u2019r diwedd ym mis Hydref 2021. Roeddwn yn cyfranogi fel rhan o brosiect i newid model apwyntiadau dilynol cleifion allanol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro, ond bydd yr hyn a ddysgais gan yr Academi yn mynd ymhell y tu hwnt i unrhyw brosiect unigol, a bydd yn sicr yn effeithio ar fy ngwaith o ddydd i ddydd fel swyddog cyfathrebu proffesiynol.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Caiff y rhaglen tri diwrnod ei chynnal gan Sefydliad Calon y Ddraig mewn partneriaeth \u00e2 sefydliad o\u2019r enw\u2019r Billions Institute. Fe\u2019i cynllunnir i helpu timau sydd wedi datblygu prosiect llwyddiannus neu ddull arloesi mewn un maes, i fynd \u00e2\u2019u gwaith a\u2019i ledaenu ar draws y system maent yn gweithio ynddi. Mae\u2019r anallu i ledaenu dulliau arloesi a syniadau yn rhwystr enfawr y mae staff yn y GIG yn ei wynebu, er mai\u2019r cyfan rydym am ei wneud fel staff yw gwneud yr hyn sydd orau i\u2019r claf. Mae\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa yn rhoi\u2019r offer a\u2019r wybodaeth i dimau, am eu hunain a\u2019r systemau maent yn gweithio o\u2019u mewn, i ddechrau mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cymhlethdod hwn. Pan fyddant yn ei ddatrys, mae\u2019r newidiadau y gallant eu cyflwyno yn gwbl chwyldroadol.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">A minnau wedi ysgrifennu am lwyddiannau\u2019r timau a gymerodd ran yn y rhaglen yn y ddwy academi flaenorol, roeddwn yn gyfarwydd \u00e2 chysyniad y cwrs ac yn llawn cyffro i gyfranogi. Fodd bynnag, rhaid i fi gyfaddef fod gennyf rai amheuon yn ei gylch: sut y gallai rhaglen tri diwrnod fod mor arloesol? A allai wir newid y ffordd y mae ei chynrychiolwyr yn gweithredu wrth geisio cyflwyno newid, neu a ydynt yn dychwelyd yn araf i\u2019r sefyllfa sydd ohoni pan fyddant yn mynd yn \u00f4l i\u2019r swyddfa? A yw ei gwersi craidd yn wirioneddol sylfaenol i\u2019r llwyddiannau y mae timau blaenorol wedi\u2019u mwynhau, neu a oeddent yn lwcus yn unig? Erbyn diwedd y diwrnod cyntaf, roedd y rhaglen wedi cyflawni, ac eisoes wedi rhagori ar bob un o\u2019m disgwyliadau; gallai ateb bob un o\u2019r gofynion hyn, ac roedd yn sicr yn gwneud hynny.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Caiff yr Academi ei haddysgu gan Becky Margiotta o\u2019r Billions Institute a chaiff ei hwyluso gan nifer o gyn-fyfyrwyr y mae\u2019n amlwg wrth edrych arnynt eu bod yn cael cymaint o foddhad o fod yna ag yr ydych chi (a\u2019r un boddhad a gawsant y tro cyntaf iddyn nhw fynychu). Ar wefan y Billions Institute, mae bywgraffiad Becky yn datgan ei bod yn \u201cysbrydoli ac yn cefnogi arweinwyr&#8230;i gamu\u2019r holl ffordd i wneud yr hyn y maent yma i\u2019w wneud ar y blaned hon.\u201d Nid gormodiaith yw hyn. Mae Becky a\u2019r hwyluswyr yn siarad gyda chymaint o frwdfrydedd dros gynnwys y cwrs a\u2019r prosiectau a gyflwynir gan y timau sy\u2019n mynychu, fel eu bod yn llwyddo\u2019n gyflym i wneud i\u2019r cynrychiolwyr deimlo\u2019n hyderus iawn ynghylch eu syniadau a\u2019u diben.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Cyn sefydlu\u2019r Billions Institute a datblygu eu model ar gyfer newid ar raddfa fawr, o\u2019r enw<\/span> <i><span data-contrast=\"auto\">The Model for Unleashing,<\/span><\/i> <span data-contrast=\"auto\">arweiniodd Becky yr Ymgyrch 100,000 o Gartrefi<\/span> <i><span data-contrast=\"auto\">.<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">yn UDA. Gwnaeth yr ymgyrch hon ddefnyddio 186 o ddinasoedd i gael 105,000 o bobl oddi ar eu strydoedd o fewn pedair blynedd yn unig. Mae llawer o\u2019r hyn a ddysgir ar y rhaglen yn seiliedig ar y profiad hwn, ac mae Becky yn eich arwain, \u00e2 dilysrwydd gwirioneddol, drwy\u2019r stori ynghylch sut y gwnaeth hi a\u2019i th\u00eem, ar \u00f4l profi straen aruthrol, ddod i\u2019r casgliad na allent fyth gyflawni eu nod os oeddent yn mynnu cadw rheolaeth ac ymgymryd \u00e2\u2019r holl waith eu hunain.<\/span><\/p>\n<p><i><span data-contrast=\"auto\">Mae&#8217;r Model for Unleashing <\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">wedi\u2019i lunio i\u2019r gwrthwyneb uniongyrchol i\u2019r ffordd hon o weithio, ac mae\u2019r Billions Institute yn diffinio newid llwyddiannus ar raddfa fawr fel \u201ctrefnu colli rheolaeth ar filoedd o bobl na fyddwch chi byth yn cyfarfod \u00e2 hwy fwy na thebyg, sy\u2019n symud yn y cyfeiriad a ddymunir yn gyffredinol.\u201d Neu fel y dywed Becky, \u201cPan fydd rhywun ar ochr arall y byd yn gwneud eich peth chi yn eu ffordd nhw, ac na wyddant unrhyw beth amdanoch, yna rydych yn gwybod eich bod wedi llwyddo.\u201d Mae graddfa\u2019r newid a ragwelir yn golygu, pan fyddwch yn edrych yn \u00f4l, prin y byddwch yn gallu cofio sefyllfa cyn i\u2019r newid hwn fodoli. Ond sut ydych chi\u2019n cyflawni hyn?<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Un o\u2019r gweithgareddau cyntaf a wnewch yn yr Academi Lledaeniad a Graddfa yw creu map o\u2019ch bywyd a\u2019r prif ddigwyddiadau sydd wedi\u2019ch arwain at eich sefyllfa bresennol. O\u2019r dasg gyntaf hon, mae\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa yn gosod ei hun ar wah\u00e2n i raglenni eraill, am ei bod yn rhaglen sy\u2019n mynd ati\u2019n ddeheuig i gyfuno agweddau technegol ar theori gwella a mewnsylliad dwys. Mae\u2019n eich galluogi i ailfeddwl am y gwaith rydych yn ceisio ei wneud a chydnabod y gwerthoedd, y safbwyntiau a\u2019r rhagfarnau rydych yn eu harddel, er mwyn lleihau\u2019r risg o barhau \u00e2\u2019r sefyllfa sydd ohoni yn ddiarwybod.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Roedd rhannu\u2019r digwyddiadau yn eich bywyd a\u2019r gwaith rydych yn ceisio ei ledaenu yn ddarnau cyfansoddol, fel pe baent yn guriadau mewn naratif, yn dasg hynod anodd, ac yn un a wnaeth ymestyn meddylfryd pawb, gan arwain at drafodaethau heriol ymhlith y timau o\u2019r cychwyn. Gwn nad fi oedd yr unig berson oedd yn teimlo\u2019n hollol flinedig, wedi fy ngorlethu ac yn dioddef pen tost ofnadwy wrth adael diwrnod cyntaf yr Academi .<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ond yn y dasg hon, gwnaeth ein t\u00eem ffurfio cyswllt drwy gyfrwng y straeon y gwnaethom eu hadrodd wrth ein gilydd. Daeth cydweithwyr yn ffrindiau wrth i ni gydymdeimlo \u00e2 phriod ddigwyddiadau ein bywydau a\u2019r gwerthoedd rydym yn eu harddel o ganlyniad i fod wedi\u2019u profi. Daeth ein cenhadaeth a\u2019n diben yn gliriach wrth i ni gytuno ar y gwerthoedd a\u2019r nodau cyffredin hynny ar gyfer y prosiect. Daeth y gwaith hwn yn sylfaen ar gyfer gweddill ein hamser gyda\u2019n gilydd yn yr Academi, a dyma\u2019r conglfaen ar gyfer gwaith ein t\u00eem i\u2019r dyfodol.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Wrth ddychwelyd i\u2019r Academi ar yr ail ddiwrnod, roedd p\u0175er y straeon rydym yn eu hadrodd wrth ein hunain ac wrth ein gilydd yn thema fawr a oedd yn codi dro ar \u00f4l tro. Dywedai Becky na allai orbwysleisio pwysigrwydd cadw\u2019r elfen ddynol ar flaen, ac yng nghanol unrhyw nod a osodwyd gennym. Er enghraifft, mae\u2019r nod o roi llwybr penodol ar waith mewn 20% o wasanaethau, wedi\u2019i ystyried yng nghyd-destun yr effaith uniongyrchol ar fuddiolwyr y gwaith, yn dod yn nod i arbed amser neu hyd yn oed achub bywydau nifer benodol o gleifion o fewn amserlen benodol.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Roedd yr ailgynllunio ysgafn hyn o safbwynt yr hyn roeddent am ei gyflawni yn taro tant gwirioneddol gyda mi. Yn y ffordd hon, rydym yn atebol i\u2019n hunain ac i\u2019r cleifion yr ydym yn ymrwymedig i wella eu bywydau. Mae\u2019n ein grymuso i adrodd stori\u2019r prosiect mewn ffordd fwy cymhellol, gan sicrhau pa faterion sy\u2019n cael y prif sylw a chynyddu\u2019r tebygolrwydd y bydd eraill yn ateb galwad ein t\u00eem i weithredu, drwy fabwysiadu ac addasu\u2019r datrysiad a gynigir.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Wrth i\u2019r Academi barhau, ailystyrir y thema ganolog hon o adrodd stori dro ar \u00f4l tro. \u201cNid yw gwybodaeth yn gyfystyr \u00e2 chymhelliant!\u201d dywed Becky, gan amlygu\u2019r gamdybiaeth, wrth ddod wyneb yn wyneb \u00e2 data neu ystadegau\u2019n unig, y bydd pobl yn gweithredu i fynd i\u2019r afael \u00e2 hwy. Nid dyma\u2019r achos, hyd yn oed os ydynt yn peri syndod mawr; nid yw data yn newid ymddygiad dynol, emosiynau sy\u2019n gwneud hynny.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallaf ei ddeall. Mae gennym y data, mae gennym lwyth ohono. Yn aml bydd gan eich cynulleidfa&#8217;r data hefyd (neu byddant yn ymwybodol ohono o leiaf), ond byddant yn ei ddiystyried neu\u2019n ei anwybyddu oherwydd na allant, ac nid ydynt, yn cysylltu ag ef ar lefel emosiynol. Gallwn ei gyflwyno drosodd a throsodd mewn ffyrdd gwahanol, ond hyd nes y deuwn o hyd i ffordd o wneud y cyswllt hwn, ni fydd yn ennyn dealltwriaeth ac ni fydd yn ysbrydoli camau gweithredu.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae adrodd y stori sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r data yn gallu ennyn adwaith empathetig, emosiynol y gwrand\u00e4wr, i\u2019w gymell i roi cynnig ar rywbeth gwahanol o leiaf. Drwy sefydlu strwythurau naratif syml cyd-destun, gwrthdaro a chanlyniad, gallwch greu dirgelwch i ennyn a chynnal diddordeb eich cynulleidfa, gan blannu syniad yn eu meddyliau, na allant byth gael gwared ohono.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">[lgc_column grid=&#8221;50&#8243; tablet_grid=&#8221;50&#8243; mobile_grid=&#8221;100&#8243; last=&#8221;false&#8221;]<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae hwn yn elfen graidd o\u2019r hyn a ddysgir yn y<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Model for Unleashing<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">. Mae adrodd straeon yn ffordd o sefydlu grym o fewn eich system, ac yn ddull allweddol o ysgogi newid: adrodd eich stori, creu empathi, ysbrydoli camau gweithredu. Mae hefyd yn rhywbeth yr wyf i\u2019n credu\u2019n gryf iawn ynddo. Wrth gwblhau fy map bywyd fy hun, teimlais fod yn rhaid i mi gynnwys y tro cyntaf y gwnaeth fy nhad ddarllen<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">The Hobbit <\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">i mi yn fachgen ifanc (mae dal gen i\u2019r un copi o\u2019r llyfr hwnnw ar fy silff heddiw). Yn<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">The Hobbit<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">, mae Tolkien yn ysgrifennu \u201cPe bai mwy ohonom yn rhoi gwerth ar lawenydd a ch\u00e2n yn hytrach na chasgliadau aur, byddai\u2019r byd yn lle hapusach.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">[\/lgc_column]<\/span><\/p>\n[lgc_column grid=&#8221;50&#8243; tablet_grid=&#8221;50&#8243; mobile_grid=&#8221;100&#8243; last=&#8221;true&#8221;]\n<p><img decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1861\" src=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/hobbit-300x300.jpeg\" alt=\"\" width=\"331\" height=\"331\" srcset=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/hobbit-300x300.jpeg 300w, https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/hobbit-150x150.jpeg 150w, https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/hobbit.jpeg 736w\" sizes=\"(max-width: 331px) 100vw, 331px\" \/><\/p>\n[\/lgc_column]\n<p><span data-contrast=\"auto\">A wnes i fewnoli hyn, yn fachgen pum mlwydd oed, gan fy arwain yn ddi-alw&#8217;n-\u00f4l ar hyd y llwybr lle yr wyf wedi cyrraedd heddiw? Rwy\u2019n amau hyn, ond mae\u2019n un o\u2019r syniadau hynny sydd wedi aros yn fy meddwl, yn rhywbeth na allaf gael gwared ohono flynyddoedd yn ddiweddarach.<\/span><span data-contrast=\"auto\">.<\/span><span data-contrast=\"auto\">O gael fy niddori gan straeon Bilbo Baggins a chuddio o dan y flanced rhag y Smaug ofnadwy, i fynd i\u2019r brifysgol i astudio Llenyddiaeth Saesneg, hyd at lwyddo i gael y swydd anrhydeddus o helpu staff anhygoel y GIG i adrodd eu straeon fel swyddog cyfathrebu proffesiynol, sylweddolais fod stori fy mywyd i, mewn gwirionedd, wedi\u2019i llunio gan straeon, a thra gall stori dda newid eich meddwl, gall stori wych eich newid chi.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Gyda\u2019r pwyslais a roddir ar adrodd straeon yn cael ei ystyried yn elfen ganolog i gyflawni newid ar raddfa fawr yn<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Model for Unleashing<\/span><\/i><span data-contrast=\"auto\">y Billions Institute, credaf y bydd yr ymarfer yn allweddol ar gyfer y timau sydd wedi mynychu\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa wrth symud ymlaen. Wrth i b\u0175er eu straeon gael ei wireddu, bydd yn dod yn elfen gynyddol gyffredin o arferion cyfathrebu GIG Cymru, gan ategu\u2019r dulliau cyfathrebu gweithredol, hanfodol rydym oll yn gyfarwydd \u00e2 hwy.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ar gyfer Academ\u00efau Lledaeniad a Graddfa\u2019r dyfodol, byddwn yn argymell yn ddiffuant fod timau yn cadw lle ar gyfer eu cydweithwyr cyfathrebu ar eu byrddau. Ni ellir gorbwysleisio gwerth eich straeon, a bydd cael cydweithiwr yno i\u2019ch helpu i\u2019w hadrodd a rhoi platfform i chi wneud hynny yn hynod werthfawr i\u2019ch prosiect o\u2019r diwrnod cyntaf un.<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">O\u2019m safbwynt i, mae lansio Sefydliad Calon y Ddraig wedi rhoi platfform i ni allu rhannu straeon anhygoel pobl o fewn y GIG yng Nghymru a\u2019r tu allan iddo, sy\u2019n gweithio i\u2019w wella ym mha bynnag ffordd a allant, a byddaf i\u2019n parhau i\u2019w helpu i adrodd eu straeon cyhyd \u00e2 bod stori i\u2019w hadrodd. Fel y mae Terry Pratchett yn ysgrifennu, \u201c<\/span><i><span data-contrast=\"auto\">Mae stori bob amser. Mae\u2019r cyfan yn straeon, mewn gwirionedd. Mae\u2019r haul yn codi bob bore yn stori. Mae popeth yn adrodd stori. Newidiwch y stori, newidiwch y byd.\u201d <\/span><\/i><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>A minnau wedi helpu i\u2019w hyrwyddo ers 2019, cefais y fraint o allu mynychu\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa o\u2019r diwedd ym mis Hydref 2021. Roeddwn yn cyfranogi fel rhan o&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":3505,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[67],"tags":[],"class_list":["post-1865","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-views-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Bryn Kentish - \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu&#039;r Academi Lledaeniad a Graddfa - Dragon Heart Institute<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Bryn Kentish - \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu&#039;r Academi Lledaeniad a Graddfa - Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"A minnau wedi helpu i\u2019w hyrwyddo ers 2019, cefais y fraint o allu mynychu\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa o\u2019r diwedd ym mis Hydref 2021. Roeddwn yn cyfranogi fel rhan o...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-10-26T14:36:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Bryn Kentish\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Bryn Kentish\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"10 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Bryn Kentish\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f\"},\"headline\":\"Bryn Kentish &#8211; \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu&#8217;r Academi Lledaeniad a Graddfa\",\"datePublished\":\"2021-10-26T14:36:06+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/\"},\"wordCount\":2013,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Barn\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/\",\"name\":\"Bryn Kentish - \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu'r Academi Lledaeniad a Graddfa - Dragon Heart Institute\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2021-10-26T14:36:06+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg\",\"width\":1707,\"height\":2560},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Bryn Kentish &#8211; \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu&#8217;r Academi Lledaeniad a Graddfa\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"Dragon's Heart Institute\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/DragonsHeart_I\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/showcase\\\/dragon-s-heart-institute\\\/\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f\",\"name\":\"Bryn Kentish\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/3-1-96x96.png\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/3-1-96x96.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/3-1-96x96.png\",\"caption\":\"Bryn Kentish\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/author\\\/bryn\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Bryn Kentish - \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu'r Academi Lledaeniad a Graddfa - Dragon Heart Institute","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Bryn Kentish - \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu'r Academi Lledaeniad a Graddfa - Dragon Heart Institute","og_description":"A minnau wedi helpu i\u2019w hyrwyddo ers 2019, cefais y fraint o allu mynychu\u2019r Academi Lledaeniad a Graddfa o\u2019r diwedd ym mis Hydref 2021. Roeddwn yn cyfranogi fel rhan o...","og_url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/","og_site_name":"Dragon Heart Institute","article_published_time":"2021-10-26T14:36:06+00:00","og_image":[{"width":1707,"height":2560,"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Bryn Kentish","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@DragonsHeart_I","twitter_site":"@DragonsHeart_I","twitter_misc":{"Written by":"Bryn Kentish","Est. reading time":"10 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/"},"author":{"name":"Bryn Kentish","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f"},"headline":"Bryn Kentish &#8211; \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu&#8217;r Academi Lledaeniad a Graddfa","datePublished":"2021-10-26T14:36:06+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/"},"wordCount":2013,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg","articleSection":["Barn"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/","name":"Bryn Kentish - \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu'r Academi Lledaeniad a Graddfa - Dragon Heart Institute","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg","datePublished":"2021-10-26T14:36:06+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#primaryimage","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/max-saeling-_CGxNOLM1gQ-unsplash-scaled.jpg","width":1707,"height":2560},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/bryn-kentish-newidiwch-y-stori-newidiwch-y-byd-myfyrio-ar-wersi-cyfathrebur-academi-lledaeniad-a-graddfa\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Bryn Kentish &#8211; \u201cNewidiwch y stori, newidiwch y byd\u201d: Myfyrio ar wersi cyfathrebu&#8217;r Academi Lledaeniad a Graddfa"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","name":"Dragon's Heart Institute","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/dragonsheart.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization","name":"Dragon's Heart Institute","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","width":1920,"height":1080,"caption":"Dragon's Heart Institute"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/DragonsHeart_I","https:\/\/www.linkedin.com\/showcase\/dragon-s-heart-institute\/"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/7ddb7c8f454b227e7c3b4c8ff56e3b4f","name":"Bryn Kentish","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/3-1-96x96.png","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/3-1-96x96.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/3-1-96x96.png","caption":"Bryn Kentish"},"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/author\/bryn\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1865","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1865"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1865\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1866,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1865\/revisions\/1866"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3505"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1865"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1865"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1865"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}