{"id":1797,"date":"2021-09-03T15:04:56","date_gmt":"2021-09-03T15:04:56","guid":{"rendered":"https:\/\/dragonsheart.org\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/"},"modified":"2021-09-03T15:07:28","modified_gmt":"2021-09-03T15:07:28","slug":"lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/","title":{"rendered":"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride"},"content":{"rendered":"<p>Mae gweithio yn y BIP wedi cynnig llawer o gyfleoedd i fi dros y blynyddoedd, yr wyf wedi bod yn hapus iawn i fanteisio arnynt. Dair blynedd yn \u00f4l, gofynnwyd i fi a fyddwn yn hoffi ymgymryd \u00e2 rhywfaint o waith ar ymgorffori dull hawliau plant yn y BIP yn dilyn addewid a wnaed i Gomisiynydd Plant Cymru. Dechreuodd gyda nifer fawr o grwpiau ffocws ac ymweliadau \u00e2 chanolfannau ieuenctid, gan arwain at sefydlu Bwrdd Ieuenctid Iechyd Prifysgol Caerdydd a\u2019r Fro, bwrdd anhygoel a deinamig sydd wedi ysbrydoli pobl yn llwyr ac wedi trawsnewid sut mae pob un ohonom yn ystyried cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gwasanaethau gofal iechyd. Mae cynnwys lleisiau pobl ifanc yn y broses gwneud penderfyniadau, datblygu gwasanaethau, cyfweliadau staff ac addysg staff wedi dechrau rhoi cyfle cyfartal i blant a phobl ifanc gyfranogi\u2019n wirioneddol.<\/p>\n<p>Weithiau caiff cyfle cyfartal mewn gofal iechyd ei gymryd yn ganiataol a\u2019i ragdybio. Yn aml, dim ond y rhai sy\u2019n profi\u2019r anghydraddoldeb, yr allgau, y diffyg p\u0175er a\u2019r microymosodiadau sydd wir yn gwybod beth sy\u2019n digwydd a sut mae\u2019n teimlo. Dim ond pan wnaethom wrando ar blant a phobl ifanc y gallem ddechrau eu grymuso a pharchu eu hawl i gael cyfle cyfartal. Mae gwelededd hefyd yn cyfrannu at wneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gweld a\u2019u croesawu. Mae gweld pobl fel ni ein hunain ar ffurf cydweithwyr, rheolwyr neu roddwyr gofal yn holl bwysig.<\/p>\n<p>Rwyf wedi bod yn fwy gweladwy yn ddiweddar fel aelod o\u2019r gymuned LGBTQ+ er mwyn cysuro eraill nad ydynt ar eu pennau eu hunain. Roedd yn fraint cael fy nghynnwys ochr yn ochr \u00e2 rhai cydweithwyr arbennig a ffrindiau o\u2019r tu allan i\u2019r BIP ar y Rhestr Binc am yr ail flwyddyn. Caiff y Rhestr Binc ei llunio i gydnabod rhai o\u2019r bobl LGBTQ+ mwyaf dylanwadol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Hoffwn rannu rhai o\u2019r pethau gwych sy\u2019n digwydd yn ein BIP i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ymhellach. Mae rhwydwaith LGBTQ+ y BIP wedi\u2019i ailddechrau a chaiff ei gadeirio gan Rhiannon Owen. Croesawn aelodau newydd i\u2019n rhwydwaith cynyddol ac i\u2019n cymuned. Cadwch lygad allan amdanon (a\u2019n pennau ysgrifennu hyfryd am ddim) wrth i ni ail-lansio a hyrwyddo\u2019r Rhwydwaith yn swyddogol. Ceir hyfforddiant nawr ar ymwybyddiaeth LGBTQ+ a sesiwn ar wah\u00e2n ar faterion Traws ac Anneuaidd mewn Gofal Iechyd yr ydym yn ei gynnig i\u2019n staff i gyd. Mae croeso i bawb fynychu! Mae\u2019r hyfforddiant yn para 3 awr, wyneb yn wyneb (lle bydd y cyfyngiadau yn caniat\u00e1u), yn anffurfiol, ymlaciol a rhyngweithiol yn \u00f4l dymuniad y sawl sy\u2019n mynychu. Gellir trefnu lle drwy\u2019r porth ESR.<\/p>\n<p>Gellir argraffu bathodynnau I.D bellach, a chynnwys y rhagenwau os dymunir. Rydym nid yn y Rhwydwaith LGBTQ+ yn falch iawn o\u2019r datblygiad hwn a\u2019r gefnogaeth rydym wedi\u2019i chael gan y T\u00eem Gweithredol i wneud iddo ddigwydd. Mae\u2019r staff yn yr adran ddiogelwch wedi ein helpu ni\u2019n sylweddol, gan ddangos hyblygrwydd rydym yn ddiolchgar iawn amdano. Mae fy mathodyn i bellach yn cynnwys fy enw, teitl swydd a\u2019m rhagenwau sy\u2019n dangos i lawer o bobl Draws ac Anneuaidd fy mod yn gyfaill ac y byddaf yn parchu eu rhagenwau os dewisant eu rhannu. Fel nyrs, mae hyn yn bwysig iawn. Rwyf am i bawb deimlo eu bod yn gallu bod yn nhw eu hunain yn enwedig yn ystod adegau o ofid, galar neu boen.<br \/>\nRwy\u2019n ysgrifennu hwn yn ystod wythnos Pride Cymru. Mae Pride yn adeg o ddathlu, ond mae\u2019n brotest o hyd. Mae achosion o droseddau casineb wedi cynyddu, sydd wedi bod yn amlwg yn adroddiadau\u2019r cyfyngau ynghylch ymosodiadau homoffobaidd. Yr haf hwn yn unig, adroddwyd am nifer o ymosodiadau corfforol ar bobl LGBTQ+ ar draws y DU, gan gynnwys ymosodiad ofnadwy yng Nghaerdydd. Yn anffodus, roedd yr adroddiad diweddaraf ynghylch llofruddiaeth a ysgogwyd gan homoffobia.<\/p>\n<p>Nid yw Trawsffobia, Deuffobia a Homoffobia wedi diflannu ac mae aelodau o\u2019r gymuned Draws yn aml yn dioddef troseddau casineb ac allg\u00e1u. Fel cynhaliwr Gwasanaeth Rhywedd Cymru, fel cyflogwr cynhwysol a darparwr gofal iechyd, mae ein BIP yn anelu at wneud mwy er mwyn datblygu cydraddoldeb. Mae ein haelodau gweithredol wedi croesawu cael eu mentora gan rai ohonom yn y rhwydwaith staff LGBTQ+ ac maent wedi dangos awydd cryf i ddysgu.<\/p>\n<p>Gofynnir i fi\u2019n aml am fy nghymhelliant i wella cydraddoldeb a chynhwysiant, ac rwy\u2019n aml wedi ateb y byddwn yn meddu ar yr un cymhelliant pe bawn i\u2019n syth. Mae trin pawb yn deg, gyda pharch a thosturi, yn sylfaenol i fod yn nyrs, felly mae fy nghymhelliant yn perthyn yn rhannol i\u2019n hunaniaeth broffesiynol, ond mae hefyd yn rhan annatod ohonof fel person, ac rwyf bob amser wedi bod felly ers yn blentyn. Yn fwy diweddar, mae fy addysg ynghylch y problemau y mae pobl Draws ac Anneuaidd yn eu hwynebu wedi dod o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Rwyf wedi clywed am y problemau maent wedi\u2019u hwynebu ac rwyf wedi gwrando ar sut maent yn teimlo. Fel sy\u2019n digwydd yn aml pan fydd oedolion wir yn gwrando ar bobl ifanc, cefais fy ysbrydoli, ac roeddwn yn benderfynol o helpu.<\/p>\n<p>Ers hynny, rwyf wedi addysgu fy hun, ac fel mae llawer o aelodau o\u2019r gymuned Draws wedi dweud (yn gwbl ddealladwy), nid eu gwaith nhw yw addysgu pawb. Gallaf afael mewn llyfr, gwylio flog a dilyn awduron Traws ar Twitter fy hun. Mae gen i lawer i\u2019w ddysgu o hyd, ac rwy\u2019n croesawu cyfleoedd i wneud hynny. Rwyf wedi gwneud camgymeriadau, rwyf wedi defnyddio\u2019r rhagenwau anghywir ar gyfer cleifion Traws, wedi gwneud tybiaethau pan fydd cyplau yn ymweld \u00e2 wardiau, ac wedi galw\u2019r enw anghywir ar rywun. Rwy\u2019n araf ddarllen llyfrau ar hil, braint gwyn, hanes LGBTQ+ a rhywedd. Mae dysgu yn barhaus, ond y peth pwysicaf yw bod yn agored iddo a bod yn gyfforddus pan fydd rhywun yn dweud wrthych eich bod yn anghywir (er, os bydd fy ngwraig yn darllen hwn, dwi BYTH yn anghywir).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gweithio yn y BIP wedi cynnig llawer o gyfleoedd i fi dros y blynyddoedd, yr wyf wedi bod yn hapus iawn i fanteisio arnynt. Dair blynedd yn \u00f4l, gofynnwyd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":12,"featured_media":3482,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[67],"tags":[],"class_list":["post-1797","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-views-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride - Dragon Heart Institute<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride - Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae gweithio yn y BIP wedi cynnig llawer o gyfleoedd i fi dros y blynyddoedd, yr wyf wedi bod yn hapus iawn i fanteisio arnynt. Dair blynedd yn \u00f4l, gofynnwyd...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-09-03T15:04:56+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-09-03T15:07:28+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/lisa-1568x724-1.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1568\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"724\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Lisa Cordery\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Lisa Cordery\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Lisa Cordery\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/8be9c2f126713062449091e83e744d40\"},\"headline\":\"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride\",\"datePublished\":\"2021-09-03T15:04:56+00:00\",\"dateModified\":\"2021-09-03T15:07:28+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/\"},\"wordCount\":1031,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/lisa-1568x724-1.jpg\",\"articleSection\":[\"Barn\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/\",\"name\":\"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride - Dragon Heart Institute\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/lisa-1568x724-1.jpg\",\"datePublished\":\"2021-09-03T15:04:56+00:00\",\"dateModified\":\"2021-09-03T15:07:28+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/lisa-1568x724-1.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/lisa-1568x724-1.jpg\",\"width\":1568,\"height\":724},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"Dragon's Heart Institute\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/DragonsHeart_I\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/showcase\\\/dragon-s-heart-institute\\\/\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/8be9c2f126713062449091e83e744d40\",\"name\":\"Lisa Cordery\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/cropped-Lisa-C-photo-96x96.jpg\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/cropped-Lisa-C-photo-96x96.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/cropped-Lisa-C-photo-96x96.jpg\",\"caption\":\"Lisa Cordery\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/author\\\/lisa-corder\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride - Dragon Heart Institute","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride - Dragon Heart Institute","og_description":"Mae gweithio yn y BIP wedi cynnig llawer o gyfleoedd i fi dros y blynyddoedd, yr wyf wedi bod yn hapus iawn i fanteisio arnynt. Dair blynedd yn \u00f4l, gofynnwyd...","og_url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/","og_site_name":"Dragon Heart Institute","article_published_time":"2021-09-03T15:04:56+00:00","article_modified_time":"2021-09-03T15:07:28+00:00","og_image":[{"width":1568,"height":724,"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/lisa-1568x724-1.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Lisa Cordery","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@DragonsHeart_I","twitter_site":"@DragonsHeart_I","twitter_misc":{"Written by":"Lisa Cordery","Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/"},"author":{"name":"Lisa Cordery","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/8be9c2f126713062449091e83e744d40"},"headline":"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride","datePublished":"2021-09-03T15:04:56+00:00","dateModified":"2021-09-03T15:07:28+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/"},"wordCount":1031,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/lisa-1568x724-1.jpg","articleSection":["Barn"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/","name":"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride - Dragon Heart Institute","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/lisa-1568x724-1.jpg","datePublished":"2021-09-03T15:04:56+00:00","dateModified":"2021-09-03T15:07:28+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#primaryimage","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/lisa-1568x724-1.jpg","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/lisa-1568x724-1.jpg","width":1568,"height":724},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/lisa-cordery-cydraddoldebau-hawliau-plant-a-pride\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Lisa Cordery: Cydraddoldebau, Hawliau Plant a Pride"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","name":"Dragon's Heart Institute","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/dragonsheart.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization","name":"Dragon's Heart Institute","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","width":1920,"height":1080,"caption":"Dragon's Heart Institute"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/DragonsHeart_I","https:\/\/www.linkedin.com\/showcase\/dragon-s-heart-institute\/"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/8be9c2f126713062449091e83e744d40","name":"Lisa Cordery","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/cropped-Lisa-C-photo-96x96.jpg","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/cropped-Lisa-C-photo-96x96.jpg","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/cropped-Lisa-C-photo-96x96.jpg","caption":"Lisa Cordery"},"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/author\/lisa-corder\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1797","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/12"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1797"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1797\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1798,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1797\/revisions\/1798"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3482"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1797"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1797"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1797"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}