{"id":1707,"date":"2021-07-30T14:24:10","date_gmt":"2021-07-30T14:24:10","guid":{"rendered":"https:\/\/dragonsheart.org\/?p=1707"},"modified":"2021-07-30T14:24:10","modified_gmt":"2021-07-30T14:24:10","slug":"wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/","title":{"rendered":"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant"},"content":{"rendered":"<p>Pe baech wedi gofyn i fi&#8217;r adeg hon y llynedd ble y credwn y byddwn i, dwi ddim yn si\u0175r y byddwn i wedi rhagweld bod yn yr adran Gwella ac Arloesi. Wedi dweud hynny, gallaf ddychmygu nad oedd y mwyafrif ohonom wedi rhagweld yr hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf.<\/p>\n<p>Rwyf wedi bod yn ffodus i gael gyrfa arbennig yn y maes Meddygaeth Frys, gan ymgymryd \u00e2 nifer o rolau gwahanol ar hyd y daith o Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) i Nyrs Arwain. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais y fraint o weithio ochr yn ochr \u00e2 rhai o\u2019r bobl fwyaf tosturiol, medrus a hyfryd. Dwi\u2019n aml yn meddwl sut y gall ffawd, lwc neu gyfuniad o ddigwyddiadau ddylanwadu ar lwybrau ein bywyd; drwy ein gyrfaoedd, rydym oll yn dyheu, neu\u2019n canfod modelau r\u00f4l sy\u2019n ein llunio fel unigolion, a\u2019r llwybr y byddwn yn ei ddilyn.<\/p>\n<p>Nid oeddwn i byth yn rhywun a fyddai\u2019n chwilio am ddyrchafiad. Dilynodd fy ngyrfa lwybr datblygiad naturiol a\u2019m galluogodd i ddatblygu a dysgu sgiliau ac arddulliau newydd ym mhob un o\u2019m rolau. Gan edrych yn \u00f4l, rhaid i mi ddweud mai bod yn HCSW yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd oedd fy r\u00f4l fwyaf pleserus, oherwydd fe\u2019m galluogodd i gael cyswllt gwerthfawr iawn \u00e2\u2019r cleifion. Fy r\u00f4l ddiwethaf fel Nyrs Arwain oedd yr un fwyaf heriol yn sicr, ond yn ddigon rhyfedd, roedd yn bleserus iawn hefyd. Fodd bynnag, yn y r\u00f4l hon, dyma\u2019r tro cyntaf y gwyddwn fod angen i fi osod amserlen i\u2019m hun er mwyn cyflawni fy nodau, ac er mwyn gwneud newidiadau parhaus ar gyfer y cleifion, staff a\u2019r uned, cyn rhoi cynnig ar rywbeth newydd.<\/p>\n<p>Fy rhesymau dros osod cynllun gyrfa 3 blynedd a mynd yn erbyn fy ethos blaenorol, oedd fy mhrofiad o wylio cydweithwyr a ffrindiau yn aros mewn rolau am gyfnod rhy hir. Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn gwneud hyn yn fwriadol, yn hytrach, maent yn aros oherwydd nifer o resymau y byddem oll yn gyfarwydd \u00e2 hwy: ymrwymiad, cyfleoedd, i enwi ond ychydig.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, gwyddwn fod r\u00f4l Nyrs Arwain yn un oedd \u00e2 rhychwant oes, o ganlyniad i\u2019r pwysau dan sylw. Roedd y r\u00f4l yn gofyn llawer: bod ar alwad 24\/7 a\u2019r ymdeimlad dwfn o fod yn gyfrifol am y cleifion, y t\u00eem a\u2019r uned. Mae\u2019n rhyfedd pa mor gyflym y dewch yn gyfarwydd \u00e2\u2019r norm newydd hwn ac rydych yn dueddol o normaleiddio\u2019r pwysau sydd arnoch.<\/p>\n<p>Wedi dweud hynny, teimlaf fod pawb ar bob lefel yn teimlo\u2019r pwysau o ganlyniad i union natur y gwaith. Felly, wrth edrych yn \u00f4l, byddwn fwy na thebyg yn cynghori\u2019r holl staff i fod \u00e2 chynllun ar gyfer hunanddatblygiad neu newid; gallech ddweud ei fod yn ffurf ar hunangadwraeth, a sicrhau bod eich lles yn cael y sylw pennaf.<\/p>\n<p>Ym mis Chwefror eleni, cefais gyfle drwy adborth positif i ymuno \u00e2\u2019r t\u00eem Gwella ac Arloesi. Mae\u2019n sicr nad oeddwn yn barod ar gyfer y newid, a dyma\u2019r peth a berodd y syndod mwyaf i fi. Mae\u2019n sicr nad oeddwn yn barod ar gyfer y newid, a dyma\u2019r peth a berodd y syndod mwyaf i fi.<\/p>\n<p>Mae swyddi gweithredol yn gyflym iawn, yn gofyn llawer ac yn peri llawer o straen. Ond pan fyddwch yn gwneud y gwaith, dwi ddim yn meddwl eich bod yn gwerthfawrogi cymaint o alw sydd arnoch, am mai dyma\u2019n syml yw\u2019r hyn rydych yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae fel petai eich bod wedi\u2019ch sefydliadu i\u2019r galw, y strwythur a\u2019r terfynau amser. Gallaf ond ei gymharu \u00e2 bod mewn cyflwr dwys y rhan fwyaf o\u2019r amser, yn wynebu\u2019r digwyddiadau mwyaf difrifol. Mae fel petai\u2019n rhoi\u2019r egni i chi wneud yr un peth dydd ar \u00f4l dydd.<\/p>\n<p>Er ei fod yn rhyddhad i gael y cyfle i ailgyfeirio a rhoi cynnig ar swydd wahanol ar gyflymder gwahanol, roedd y newid yn anoddach na\u2019r hyn a ddychmygais. Mae pawb wedi dweud wrthyf y byddaf yn addasu, ond misoedd diwethaf dwi\u2019n dal i\u2019w chael yn heriol derbyn y norm newydd. Mae\u2019n fraint cael yr amser i feddwl, myfyrio a dylanwadu, ac mae\u2019n gyfle rwy\u2019n bwriadu manteisio arno er mwyn gwneud gwahaniaeth ble y gallaf.<\/p>\n<p>Wedi dweud hynny, teimlaf fod yn rhaid i fi fod yn ofalus wrth esbonio rhai o\u2019r anawsterau wrth newid o r\u00f4l mor weithredol i swydd fwy corfforaethol, rhag ofn y bydd unrhyw un sy\u2019n darllen hwn yn mynd yn flin ac yn dweud wrthyf am roi\u2019r gorau i gwyno. Mae\u2019n rhaid i fi egluro mai\u2019r heriau hyn yw fy heriau personol i, ac efallai na fyddai pobl eraill sy\u2019n mentro ar yr un newid yn teimlo&#8217;r un peth.<\/p>\n<p>Fy mhroblem fwyaf yw\u2019r hyn y byddwn yn ei alw\u2019n deimlad o euogrwydd. Wrth i mi addasu i\u2019r hyn sydd, wrth edrych yn \u00f4l, yn r\u00f4l fwy \u2018normal\u2019, rwy\u2019n ymwybodol iawn o\u2019r straen a\u2019r pwysau sy\u2019n wynebu fy nghydweithwyr sy\u2019n parhau i fod yn yr uned. Rwy\u2019n ffodus iawn i gael pobl o\u2019m cwmpas sy\u2019n gallu fy hyfforddi ar sut i addasu. Maent yn parhau i\u2019m sicrhau ei fod yn gwbl normal teimlo ychydig yn ansicr, yn niffyg gwell ymadrodd. Maent yn parhau i\u2019m sicrhau ei fod yn gwbl normal teimlo ychydig yn ansicr, yn niffyg gwell ymadrodd. Ond ni allaf reoli\u2019r amheuon mewnol hyn sy\u2019n parhau i\u2019m corddi, ac efallai mai\u2019r ateb yw ceisio rhyddhau\u2019r cyswllt agos sydd gennyf \u00e2\u2019r hyn sydd wedi bod mor gyfarwydd i mi am gyhyd.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n dysgu gweithio yn fwy annibynnol ond mae\u2019n cymryd amser i ddod yn gyfarwydd \u00e2 hyn. Ar yr Uned Achosion Brys, er nad oeddwn bob amser yn gwybod pa heriau fyddai\u2019n ein hwynebu, roedd trefn strwythuredig iawn ar gyfer delio \u00e2 hwy bob dydd, os nad bob awr; mae\u2019n debyg i geisio dileu\u2019r hyn rydym wedi dod yn gyfarwydd ag ef ers dros 30 mlynedd, ac mae\u2019n fwy heriol nag y byddech yn ei ddychmygu.<\/p>\n<p>Rwy\u2019n hapusach nawr nag yr wyf erioed wedi bod, ac mae\u2019r newid yn rhywbeth y gwyddwn fod ei angen arnaf, yn bersonol ac yn broffesiynol. Er fy mod wedi amlygu rhai o\u2019r problemau personol a oedd yn heriol iawn i mi, mae\u2019r manteision yn drech o lawer na\u2019r anfanteision. Mae\u2019r t\u00eem, fel pob t\u00eem yr wyf wedi gweithio ag ef, yn anhygoel ac mor gefnogol. Mae gwaith t\u00eem yn bwysig tu hwnt; ni allwn wneud newidiadau mewn seilos, ac mae\u2019n rhaid i ni fod yn ddewr a herio nid yn unig ein hunain, ond y rhai o\u2019m cwmpas hefyd. Mae bod yn rhan o\u2019r T\u00eem Gwella ac Arloesi wedi rhoi\u2019r cyfle i fi archwilio llwybrau gwaith gwahanol, ac ehangu fy ngwybodaeth broffesiynol a\u2019m sgiliau.<\/p>\n<p>Yn y ffordd newydd hon o weithio, rwyf wedi cael ychydig o fisoedd prysur tu hwnt ers i fi ddechrau. Hyd yma, rwyf wedi bod yn ffodus i fod yn rhan o\u2019r gwaith o sefydlu Canolfan Brechu Torfol y Bae, ac rwy\u2019n dal i gyfrannu\u2019n helaeth at gefnogi\u2019r t\u00eem ym mha bynnag ffordd a allaf er mwyn gwella profiad cleifion a staff. Mae hyn wedi bod yn arbennig o werth chweil, ac rwyf wedi manteisio ar y cyfle i chwarae rhan ragweithiol iawn yn y frwydr yn erbyn COVID.<\/p>\n<p>Rwyf hefyd yn arwain ar y rhaglen 14,000 o Leisiau ochr yn ochr \u00e2\u2019r Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Diwylliant, Rachel Gidman. Mae hwn yn gyfle mor gyffrous, ac ar \u00f4l darllen am yr ysbrydoliaeth dros yr ymgyrch hon yn Ysbyty Tan Tock Seng yn Singapore, a\u2019r effaith a gafodd, ni allaf aros i ymgymryd \u00e2\u2019r dasg, cyfarfod \u00e2\u2019m cydweithwyr ar draws y system a chlywed eu syniadau anhygoel ynghylch sut i wneud pethau\u2019n well i gleifion.<\/p>\n<p>Bydd llawer o\u2019r gwaith ar y rhaglen hon yn bwysig i\u2019r Arddangosfa (Showcase), sef darn arall o waith rwy\u2019n ei gefnogi. Bwriedir cynnal yr Arddangosfa ym mis Medi eleni, ac mae\u2019n gyfle arall sy\u2019n gyffrous iawn. Mae\u2019n rhywbeth y mae\u2019r BIP wedi\u2019i ddatblygu o\u2019r hyn a ddysgwyd oddi wrth Fwrdd Iechyd Canterbury yn Seland Newydd. Credaf y bydd yn cyfrannu\u2019n sylweddol at wneud newidiadau positif enfawr i ddiwylliant ein sefydliad a sut rydym yn mynd i\u2019r afael \u00e2 phethau wrth i ni edrych at adfer yn dilyn y pandemig COVID-19, a sicrhau bod ein gwasanaethau y gorau y gallant fod ar gyfer cenedlaethau\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>Wrth i fi fagu hyder, byddaf yn parhau i archwilio pa gyfleoedd gwahanol sydd ar gael fel y gallaf gynnig fy sgiliau a\u2019m harbenigedd i wella\u2019r gwasanaethau a ddarperir gan y BIP. Mae cymaint o botensial i ddatblygu ffyrdd arloesol o weithio a hybu newid go iawn ym mhob adran a chyfarwyddiaeth ar draws y sefydliad hwn; gwn y bydd gan bob un o\u2019m cydweithwyr sy\u2019n gweithio ar y rheng flaen syniadau ynghylch sut y gallant wella pethau, ac rwyf am iddynt wybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain wrth geisio gwneud y newidiadau a fydd o fudd i\u2019w cleifion, er, yn ystod eu dyddiau tywyllaf, gall deimlo felly weithiau.<\/p>\n<p>Mae gennyf gyswllt dwfn \u00e2\u2019r Uned Achosion Brys o hyd a drws blaen Ysbyty Athrofaol Cymru, a\u2019m hen d\u00eem y tu mewn. Yn fy swydd newydd, credaf fy mod mewn sefyllfa unigryw, gan wybod sut deimlad yw gweithio o dan gymaint o bwysau bob dydd, i fod yn gyswllt rhwng y timau gwella, corfforaethol a gweithredol.<\/p>\n<p>Rwyf bob amser wedi bod yn llawn egni yn dod i\u2019r gwaith, ond bydd y r\u00f4l yn fy ngalluogi i gyfeirio\u2019r egni hwnnw yn wahanol, a gobeithio, edrych ar sut y gallaf ymgysylltu \u00e2 staff a\u2019u grymuso yn yr un ffordd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pe baech wedi gofyn i fi&#8217;r adeg hon y llynedd ble y credwn y byddwn i, dwi ddim yn si\u0175r y byddwn i wedi rhagweld bod yn yr adran Gwella&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":10,"featured_media":3469,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[67],"tags":[],"class_list":["post-1707","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-views-cy"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant - Dragon Heart Institute<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant - Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Pe baech wedi gofyn i fi&#8217;r adeg hon y llynedd ble y credwn y byddwn i, dwi ddim yn si\u0175r y byddwn i wedi rhagweld bod yn yr adran Gwella...\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Dragon Heart Institute\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-07-30T14:24:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/NC044127-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1787\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Wayne Parsons\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@DragonsHeart_I\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Wayne Parsons\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Wayne Parsons\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/d1996af4db1758993559311b66a4f8ac\"},\"headline\":\"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant\",\"datePublished\":\"2021-07-30T14:24:10+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/\"},\"wordCount\":1697,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/NC044127-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Barn\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/\",\"name\":\"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant - Dragon Heart Institute\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/NC044127-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2021-07-30T14:24:10+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/NC044127-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/NC044127-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1787,\"caption\":\"Photos of new Accident and Emergency Unit entrance for communications PR.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#organization\",\"name\":\"Dragon's Heart Institute\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/03\\\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png\",\"width\":1920,\"height\":1080,\"caption\":\"Dragon's Heart Institute\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/x.com\\\/DragonsHeart_I\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/showcase\\\/dragon-s-heart-institute\\\/\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/d1996af4db1758993559311b66a4f8ac\",\"name\":\"Wayne Parsons\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/wayne-parsons-cutout-96x96.png\",\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/wayne-parsons-cutout-96x96.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/wayne-parsons-cutout-96x96.png\",\"caption\":\"Wayne Parsons\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/dragonsheart.org\\\/cy\\\/author\\\/wayne-parsons\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant - Dragon Heart Institute","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant - Dragon Heart Institute","og_description":"Pe baech wedi gofyn i fi&#8217;r adeg hon y llynedd ble y credwn y byddwn i, dwi ddim yn si\u0175r y byddwn i wedi rhagweld bod yn yr adran Gwella...","og_url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/","og_site_name":"Dragon Heart Institute","article_published_time":"2021-07-30T14:24:10+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1787,"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/NC044127-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Wayne Parsons","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@DragonsHeart_I","twitter_site":"@DragonsHeart_I","twitter_misc":{"Written by":"Wayne Parsons","Est. reading time":"8 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/"},"author":{"name":"Wayne Parsons","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/d1996af4db1758993559311b66a4f8ac"},"headline":"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant","datePublished":"2021-07-30T14:24:10+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/"},"wordCount":1697,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/NC044127-scaled.jpg","articleSection":["Barn"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/","name":"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant - Dragon Heart Institute","isPartOf":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/NC044127-scaled.jpg","datePublished":"2021-07-30T14:24:10+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#primaryimage","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/NC044127-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/NC044127-scaled.jpg","width":2560,"height":1787,"caption":"Photos of new Accident and Emergency Unit entrance for communications PR."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wayne-parsons-o-argyfwng-i-welliant\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Wayne Parsons: O Argyfwng i Welliant"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#website","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","name":"Dragon's Heart Institute","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/dragonsheart.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#organization","name":"Dragon's Heart Institute","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Dragons-Heart-Institute-Logo_In-Line-10.png","width":1920,"height":1080,"caption":"Dragon's Heart Institute"},"image":{"@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/x.com\/DragonsHeart_I","https:\/\/www.linkedin.com\/showcase\/dragon-s-heart-institute\/"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/#\/schema\/person\/d1996af4db1758993559311b66a4f8ac","name":"Wayne Parsons","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/wayne-parsons-cutout-96x96.png","url":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/wayne-parsons-cutout-96x96.png","contentUrl":"https:\/\/dragonsheart.org\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/wayne-parsons-cutout-96x96.png","caption":"Wayne Parsons"},"url":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/author\/wayne-parsons\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1707","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1707"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1707\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1710,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1707\/revisions\/1710"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3469"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1707"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1707"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dragonsheart.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1707"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}